Diolch am ymweld â’n gwefan newydd. Gobiethio y gwnewch chi ddod o hyd i bopeth rydych chi’n
edrych amdano, boed hynny’n pori’r llyfrau sydd ar gael i’w benthyg, lawrlwytho llyfrau llafar neu
ddod yn aelod.
Archebu a Chaglu
Mae’r rhan fwyaf o’n llyfrgelloedd ar agor ar gyfer gwasanaethau “archebu a chasglu” yn ystod y
cyfyngiadau clofa lefel pedwar rydym ni’n profi ar hyn o bryd. Phoniwch eich llyfrgell leol i archebu a
threfnu amser cyfleus i gasglu eich llyfrau.
Dim Dirwyon
Hyd yn hyn mae 74% o’r rhai hynny sydd wedi ymateb i’n holiadur presennol yn ymwybodol fod
Llyfrgelloedd Awen ddim yn codi dirwyon am lyfrau sydd wedi eu dychwelyd yn hwyr – helpwch ni i
roi gwybod i bawb arall! Dyma un ffordd o chwalu rhwystrau rhwng pobl â’n gwasanaethau.
Dilynwch ni ar Facebook
Os hoffech chi gael y newyddion diweddaraf o’ch llyfrgell leol, ystyriwch ei dilyn ar Facebook. Mae
gan bob llyfrgell ei thudalen Facebook ei hun yn ogystal â thudalen Llyfrgelloedd Awen gyffredinol,
“hoffwch” nhw!