Allwch chi helpu i ddod â’r paentiad o ‘Maesteg Iron Works’ gartref?

christopher williams NEW

Mae un o baentiadau llai enwog Christopher Williams yn dangos tirnod lleol ym Maesteg: ffwrnais y Gwaith Haearn.

Enw’r paentiad yw ‘Maesteg Iron Works’ ac fe’i cadwyd gan deulu Williams ar ôl ei farwolaeth. Mae un o’r perthnasau hyn bellach wedi rhoi’r paentiad yn rhodd garedig i’w hongian yn Neuadd y Dref Maesteg: tref ei grëwr a’i destun.

Mae angen gwaith cadwraeth sylweddol ar y paentiad cyn gallu ei arddangos yn gyhoeddus, ac rydym wedi cael grant o £5000 tuag at gostau’r gwaith cadwraeth hwn. Mae’r grant hael iawn hwn wedi dod o’r Pilgrim Trust, a gefnogodd waith y paentiadau eraill gan Christopher Williams a fydd yn cael eu dychwelyd i Neuadd y Dref pan fydd y gwaith ailddatblygu ar y Neuadd wedi’i gwblhau.

Fodd bynnag, mae hyn yn gadael £6000 arall sydd ei angen i dalu cost cadwraeth y paentiad ‘Maesteg Iron Works’ a’i ffrâm. Allwch chi ein helpu i gasglu’r arian hwn i wneud y gwaith cadwraeth ar y paentiad ‘Maesteg Iron Works’, er mwyn iddo fod yn ei gyflwr gorau i ymwelwyr ei fwynhau yn Neuadd y Dref ar ei newydd wedd.

Gallwch chi helpu drwy gynnig rhodd ariannol trwy’r ddolen hon: Help us bring Christopher Williams’ long lost painting of the Llynfi Ironworks home to Maesteg | Localgiving

Rhannu’r dudalen hon

Subscribe to our mailing list to receive our latest library news, updates and event information direct to your inbox.

or Unsubscribe