Gŵyl Llên Plant Pen-Y-Bont Ar Ogwr 2024

BCLF-2024-Desktop-1536x864

Bydd Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn cynnal ail Ŵyl Llên Plant Pen-y-bont ar Ogwr o ddydd Sadwrn 10 tan ddydd Sul 18 Chwefror, gyda chefnogaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSP).

Mae’r ŵyl wythnos o hyd, a gynhelir ym Mharc Gwledig Bryngarw, Canolfan Gymunedol Awel y Môr ym Mhorthcawl a llyfrgelloedd ar draws Pen-y-bont ar Ogwr, yn gobeithio ysbrydoli cariad gydol oes at ddarllen ymhlith plant a phobl ifanc, drwy ddathlu llenyddiaeth ac adrodd straeon yn ei holl ffurfiau. .

Bydd digwyddiadau yn cynnwys theatr, cerddoriaeth, adrodd straeon, dangosiadau sinema, sgyrsiau awduron, gweithdai meim, darlunio a llawer mwy. Bydd Goose, perfformiad theatr rhyngweithiol i blant dan 5 gan Tailgate Theatre Productions a sesiynau cerddoriaeth fyw amlsynhwyraidd dwyieithog Babis Bach, ynghyd ag ymweliad gan yr awdur, bardd arobryn a Bardd Plant Cymru 2023-2025, Alex Wharton, hefyd yn ymddangos yn y rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau.

Eglurodd Prif Weithredwr Awen, Richard Hughes, fel rhan o ymrwymiad yr elusen gofrestredig i chwalu’r rhwystrau a allai atal pobl rhag cael mynediad i’r celfyddydau a diwylliant ac ymgysylltu â nhw, bydd digwyddiadau’r ŵyl naill ai’n rhad ac am ddim neu’n rhad iawn.

“Roedd ein gŵyl lenyddiaeth gyntaf i blant y llynedd yn llwyddiant ysgubol, gyda digwyddiadau a gynhaliwyd ar draws lleoliadau Awen yn cael eu mynychu gan gannoedd o deuluoedd. Edrychwn ymlaen at adeiladu ar y llwyddiant hwn ym mis Chwefror, gyda rhaglen amrywiol arall o ddigwyddiadau yn arddangos y gorau oll mewn llenyddiaeth plant o Gymru a thu hwnt. Rydym yn ddiolchgar i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr am gefnogi’r ŵyl eto.”

Dywedodd y Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros Ddiogelwch Cymunedol a Lles: “Yn dilyn llwyddiant ysgubol digwyddiad cyntaf erioed y llynedd, a gyflwynodd gant o ddigwyddiadau i dros 1,000 o bobl ar draws y fwrdeistref sirol, rydym yn falch o gefnogi’r ŵyl hon sydd ar ddod unwaith. eto. Gobeithiwn y bydd yr ŵyl yn tanio dychymyg a chreadigrwydd y plant sy’n mynychu, ac y bydd teuluoedd yn cael eu tanio gan yr amrywiaeth o gelfyddydau, barddoniaeth a llenyddiaeth sydd ar gael.”

Gellir archebu pob digwyddiad ymlaen llaw drwy wefan Awen: https://www.awen-wales.com/bclf-2024/.

Rhannu’r dudalen hon

Llyfrgell Abercynffig yn Ailagor

Bydd Llyfrgell Abercynffig yn ailagor ddydd Llun, 18 Mawrth, yn dilyn gwaith adeiladu hanfodol. Bydd yr oriau agor arferol yn ailgychwyn. Bydd ein llyfrgell dros dro a’r gwasanaeth Swyddfa Bost

Darllen Rhagor

Streic Y Glowyr Yn 40 Oed

Mae diwydiant, ac yn enwedig mwyngloddio glo, yn rhan hanfodol o’n hanes lleol. Roedd y pyllau glo yn dod â gweithwyr i’r cymoedd, gyda threfi’n tyfu yn yr amseroedd gorau

Darllen Rhagor

Subscribe to our mailing list to receive our latest library news, updates and event information direct to your inbox.

or Unsubscribe