Llyfrgell Dros Dro yn Ysgol Gyfun Porthcawl

PORTHCAWL NEW MOST RECENT

Mae Llyfrgell Porthcawl ac Ysgol Gyfun Porthcawl wedi dod at ei gilydd i gyrraedd darllenwyr anfoddog a myfyrwyr prysur gyda chyflenwad o lyfrau am ddim. Ers mis Ionawr, mae llyfrgell y dref wedi bod yn darparu amrywiaeth o lyfrau ffuglen i bobl ifanc ar gyfer llyfrgell dros dro yn yr ysgol. I ddechrau, roedd y llyfrgell dros dro yn darparu ar gyfer disgyblion Blwyddyn 7 ond mae cynlluniau i gynnig y gwasanaeth i grwpiau blynyddoedd eraill hefyd.

Dywedodd Steve Howells o Ysgol Gyfun Porthcawl: “Fel Cydlynydd Llythrennedd rwyf yn lladmerydd cryf dros y cydweithio agos rhwng ein hysgol ni a’r llyfrgell. Dylai llyfrgell fod yn galon ac enaid unrhyw dref; mae darllen ei hun yn cynnig cyfle i blant ac oedolion fanteisio ar gyfoeth diderfyn dychymyg, hanes a phrofiad.

“Gyda chysylltiadau cryf y llyfrgell â’r gymuned a’r agosrwydd at yr ysgol, mae’n amlwg y gall ein myfyrwyr elwa ar y doreth enfawr o adnoddau a gwybodaeth sydd gan y llyfrgell. Yng ngeiriau’r Manic Street Preachers, ‘libraries gave us power’ a, gyda hyn mewn golwg, rwy’n credu’n gryf y bydd y bartneriaeth hon yn cyfoethogi dysgu ein myfyrwyr ac yn eu grymuso i ddod yn ddysgwyr gydol oes.”

Mae Ysgol Gyfun Porthcawl wedi penodi Llysgenhadon Llyfrgell ar gyfer yr ysgol: disgyblion Casper a Chloe o Flwyddyn 7, sy’n mwynhau’r rôl yn fawr.

Dywedodd Casper: “Rwy’n credu bod darllen yn dueddol o fynd â’ch meddwl chi i le gwahanol ac mae’n eich helpu chi i oresgyn problemau gan ddychmygu byd gwahanol lle mae pethau’n well, gan ar yr un pryd, gwella’ch meddwl a helpu’r byd”.

Dywedodd Chloe: “Fe wnes i wir fwynhau’r Soul Hunter ac roedd ganddo lawer o droeon ac roedd yn codi ofn neidio o’ch croen arnoch chi – gallai dyn da droi’n ddihiryn neu i’r gwrthwyneb! Enw’r ail lyfr yr wyf i wedi’i gymryd o’r llyfrgell yw Empress and Aniya: mae’n hawdd uniaethu ag ef ac rwy’n edrych ymlaen at ddarllen mwy. Rwy’n credu bod llyfrgelloedd yn bwysig oherwydd, o ran llyfrau, efallai na fyddwch chi’n hoffi’r llyfr – felly mae gallu dychwelyd llyfr ar unrhyw adeg yn gysur mawr gan eich bod chi’n gwybod nad ydych chi wedi gwastraffu’ch arian!”

Ychwanegodd Karen Wyatt, Cynorthwyydd Llyfrgell Llyfrgell Porthcawl: “Fel Cynorthwyydd Llyfrgell eithaf newydd a darllenydd brwd, roedd yn teimlo’n rhwystredig gweld cymaint o lyfrau ffuglen anhygoel i bobl ifanc yn eistedd ar silffoedd, gyda chyn lleied o bobl yn eu benthyg nhw. Datblygodd syniad y llyfrgell dros dro o ddymuniad i ehangu’r cyfle i bobl ifanc fanteisio ar lyfrau”.

Rhannu’r dudalen hon

Subscribe to our mailing list to receive our latest library news, updates and event information direct to your inbox.

or Unsubscribe