Dewis y Mis gan aelodau’r Staff

An open book.

Gall fod yn anodd gwybod pa lyfr i ddewis nesaf, felly rydyn ni’n gofyn i staff Llyfrgelloedd Awen argymell llyfr bob mis i’ch helpu chi i ddewis eich un chi. Y mis hwn, gwnaethom ofyn i Julie a Rhiannon pa lyfrau sydd wedi’u hysbrydoli nhw fwyaf.

Dywedodd Julie: “Hoff lyfr i mi yr wyf i’n ei argymell yw Daisy Jones and The Six gan Taylor Jenkins Reid. Roedd llygaid sbectol haul Daisy Jones wedi fy nilyn i o gwmpas y llyfrgelloedd o glawr y llyfr hwn am gryn amser cyn i mi ildio a dechrau ei ddarllen. O’r eiliad y darllenais i’r llinell gyntaf roeddwn i’n gaeth! Mae’r stori’n cyfleu naws Fleetwood Mac, gan greu teimlad byd-eang newydd sbon. Mae gan y cymeriadau eu ffaeleddau ond maen nhw’n anhygoel; Mae’r ffordd y mae’r berthynas â’i gilydd yn cael ei disgrifio yn wirioneddol, yn gignoeth, yn dorcalonnus ac yn dyner. Nid yw’r math hwn o naratif ‘cyfweld’ bob amser yn gweithio i mi – ond roedd hwn – roedd hwn yn berffaith. Mae Taylor Jenkins Reid yn gwau’r rhyngweithredu rhwng cymeriadau’n berffaith a bu bron i mi chwyrlïo o gwmpas fel Stevie Nicks wrth ddarllen. Roedd y nofel hon mor dda, er gwaethaf cymeradwyo’r dewisiadau castio yn llwyr – rwy’n rhy ofnus i wylio’r gyfres yn seiliedig ar y llyfrau.”

Meddai Rhiannon: “Mae gen i lawer o hoff lyfrau am lawer o wahanol resymau, ond os byddai’n rhaid i mi ddewis un, byddwn i’n dweud A Christmas Carol – Charles Dickens. Roeddwn i’n eithaf ifanc pan ddarllenais i hwn am y tro cyntaf, ac rwy’n cofio teimlo bod yr awyrgylch yn newid yn yr ystafell a meddwl “Waw! Doeddwn i ddim yn gwybod bod llyfr yn gallu gwneud hynny!”

Rhannu’r dudalen hon

Llyfrgell Abercynffig yn Ailagor

Bydd Llyfrgell Abercynffig yn ailagor ddydd Llun, 18 Mawrth, yn dilyn gwaith adeiladu hanfodol. Bydd yr oriau agor arferol yn ailgychwyn. Bydd ein llyfrgell dros dro a’r gwasanaeth Swyddfa Bost

Darllen Rhagor

Streic Y Glowyr Yn 40 Oed

Mae diwydiant, ac yn enwedig mwyngloddio glo, yn rhan hanfodol o’n hanes lleol. Roedd y pyllau glo yn dod â gweithwyr i’r cymoedd, gyda threfi’n tyfu yn yr amseroedd gorau

Darllen Rhagor

Subscribe to our mailing list to receive our latest library news, updates and event information direct to your inbox.

or Unsubscribe