Bardd Plant y Book Trust yn ymweld â Llyfrgell Pen-y-bont ar Ogwr

cl12-2-16x9

Bydd Bardd Plant presennol y Book Trust, Joseph Coelho, bardd ac awdur nofelau Frankenstiltskin, yn Llyfrgell Pen-y-bont ar Ogwr ddydd Mercher, 6 Medi.

Mae Bardd Plant Waterstones, Joseph Coelho, yn fardd perfformio, dramodydd ac awdur plant llwyddiannus o Gaint. Enillodd ei gasgliad cyntaf o farddoniaeth Werewolf Club Rules (Frances Lincoln, 2014) Wobr Barddoniaeth CLiPPA CLPE 2015. Mae barddoniaeth a pherfformio yn ganolog i’w waith ac mae ganddo dros 20 mlynedd o brofiad o gynnal sesiynau llythrennedd creadigol deinamig mewn ysgolion. Ei nod yw ysbrydoli pobl ifanc drwy straeon a chymeriadau y gallan nhw uniaethu â nhw ac mae’n trafod themâu fel ofn, dewrder, amrywiaeth, diolchgarwch, empathi a cholled.

Mae’r sesiwn hon yn addas i blant rhwng 5 – 12 oed. Mae’r sesiwn am ddim a gallwch chi archebu lle drwy gysylltu â Llyfrgell Pen-y-bont ar Ogwr ar 01656 754830.

Rhannu’r dudalen hon

Llyfrgell Abercynffig yn Ailagor

Bydd Llyfrgell Abercynffig yn ailagor ddydd Llun, 18 Mawrth, yn dilyn gwaith adeiladu hanfodol. Bydd yr oriau agor arferol yn ailgychwyn. Bydd ein llyfrgell dros dro a’r gwasanaeth Swyddfa Bost

Darllen Rhagor

Streic Y Glowyr Yn 40 Oed

Mae diwydiant, ac yn enwedig mwyngloddio glo, yn rhan hanfodol o’n hanes lleol. Roedd y pyllau glo yn dod â gweithwyr i’r cymoedd, gyda threfi’n tyfu yn yr amseroedd gorau

Darllen Rhagor

Subscribe to our mailing list to receive our latest library news, updates and event information direct to your inbox.

or Unsubscribe