Llyfrgell Pencoed Ailddatblygu

birdseye angled downstairs

Bydd Llyfrgell Pencoed ar gau i’r cyhoedd o ddydd Llun 19 Rhagfyr i ddechrau ar y gwaith o’i hailddatblygu. Mae disgwyl i’r llyfrgell ailagor ddechrau mis Mawrth ar gyfer ei dathliad yn 50 mlwydd oed.

Mae’r gwaith ailddatblygu, a fydd yn cynnwys diweddaru’r hen ddodrefn statig gyda silffoedd symudol, creu gofod gweithio/astudio ac adeiladu ystafell gyfarfod gymunedol i grwpiau lleol a gwasanaethau cymorth i’w defnyddio, wedi’i ariannu gan Gynllun Grant Trawsnewid Cyfalaf Llywodraeth Cymru.

Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, yr elusen gofrestredig sy’n rheoli Llyfrgell Pencoed mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn rhoi arian cyfatebol ychwanegol i osod paneli solar ar do yr adeiladu  sy’n wynebu’r de. Mae hyn yn golygu y bydd Llyfrgell Pencoed yn gweithredu gan ddefnyddio ffynonellau ynni cynaliadwy yn ystod oriau golau dydd.

Tra bydd y llyfrgell ar gau, bydd gwasanaeth Archebu a Chasglu yn gweithredu o Swyddfa Cyngor Tref Pencoed yn Festri Capel Salem o ddydd Mawrth 3 Ionawr 2023. Bydd staff y llyfrgell hefyd yn ymweld ag ysgolion, meithrinfeydd a lleoliadau cymunedol eraill i gyflwyno digwyddiadau gan gynnwys sesiynau Bownsio a Rhigwm, Grwpiau Darllen, Prynhawniau Crefft, Clybiau Codio, Amserau Stori a sesiynau Cymorth Digidol i breswylwyr. Cofiwch gadw llygad ar ein tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol a’n gwefan am fanylion.

Cofiwch alw heibio dros y wythnos i gasglu’r llyfrau y byddwch yn eu darllen dros y Nadolig!

Rhannu’r dudalen hon

Shelves of books.

Rhestr Llyfrau Newydd

Oes diddordeb gennych chi yn y llyfrau newydd sydd ar gael yn eich llyfrgell leol? Mae gennym amrywiaeth o lyfrau ffuglen a ffeithiol ar gael o mis Gorffennaf. Ffuglen: Farewell,

Darllen Rhagor

Lansio Sialens Ddarllen yr Haf 2024

Bydd Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn lansio Sialens Ddarllen yr Haf 2024 a’u rhaglen haf o weithgareddau llyfrgell gyda digwyddiad hwyliog i’r teulu yng Nghaeau Newbridge ym Mhen-y-bont ar Ogwr ddydd

Darllen Rhagor

Subscribe to our mailing list to receive our latest library news, updates and event information direct to your inbox.

or Unsubscribe