Mis Hanes Ogwr

Trwy gydol mis Medi byddwch chi’n gallu mwynhau amrywiaeth o sgyrsiau, teithiau cerdded ac arddangosfeydd hanes am ddim ledled Sir Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae’r Mis Hanes wedi’i drefnu mewn partneriaeth â Rhwydwaith Treftadaeth Ogwr, ac mae wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU. Mae yna hefyd sawl Diwrnod Agored mewn partneriaeth â gŵyl Drysau Agored CADW.

Mae holl weithgareddau’r Mis Hanes am ddim, ond ar gyfer llawer o’r gweithgareddau, mae nifer y lleoedd sydd ar gael yn gyfyngedig. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi archebu tocynnau ymlaen llaw.

 

*Mae tocynnau a gweithgareddau ar gael ar sail cyntaf i’r felin, a gall sgyrsiau newid. Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu cyfleu ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn uniongyrchol i ddeiliaid tocynnau

 

Digwyddiadau

MediAmserLleoliadDigwyddiadMwy o wybodaeth / tocynnau
Dydd Llun 2
3yp - 5yp

Llyfrgell Maesteg

Clwb Lego – defnyddiwch Lego i adeiladu tamaid o hanes!
Mwy o wybodaeth
Dydd Mawrth 3
11yb
Llyfrgell Maesteg
Sgwrs hanes* ac arddangosfa gan Richard Williams ac Amanda Powell: 'Glo a Chymuned yng Nghymru'. Bydd arddangosfa o luniau Pwll Glo Sant Ioan i'w gweld drwy'r dydd.
MWY O WYBODAETH
Dydd Mercher 4   
1.45yp

Llyfrgell Porthcawl

Sgwrs hanes* gan Peter Rees: 'Plant a ddaeth yn faciwîs i Gymru yn yr Ail Ryfel Byd'.
MWY O WYBODAETH
Dydd Gwener 6
2yb
Awel y Môr, Porthcawl
Sgwrs hanes* gan Phil Cope: 'Paul Robeson yng Nghymru'.
MWY O WYBODAETH
Dydd Sadwrn 7 
10yb – 1yp
Y Mem, Nant-y-moel
Diwrnod Agored Hanes gan Gymdeithas Hanes Lleol Cwm Ogwr, mewn partneriaeth â Drysau Agored CADW.
MWY O WYBODAETH
Dydd Sadwrn 7

10yb

Canolfan William Trigg, Blaengarw
Taith gerdded a sgwrs hanes gan Gerald Jarvis: 'Hanes Daniel James'. Mae'r daith gerdded yn cyfarfod y tu allan i Ganolfan William Trigg ym Mlaengarw.
MWY O WYBODAETH
Dydd Sul 8
11yb – 3yp

Tŷ Sant Ioan, Pen-y-bont ar Ogwr

Diwrnod Agored yn Nhŷ Sant Ioan, yr annedd hynaf y mae modd byw ynddi ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gyda straeon am forwyn mewn gwasanaeth yn Oes Fictoria. Mewn partneriaeth â Drysau Agored CADW.
MWY O WYBODAETH
Dydd Llun 9
3yp – 5yp
Llyfrgell Maesteg
Clwb Lego – defnyddiwch Lego i adeiladu tamaid o hanes !
MWY O WYBODAETH
Dydd Llun 9
2yb
Llyfrgell y Pîl
Sgwrs hanes* gan Dr. Elin Jones: ‘Hanes yn y Tir, yn trafod yr hanes yn ein tir ni’. Mae'r sgwrs hon yn Gymraeg.
MWY O WYBODAETH
Dydd Llun 9
7.30yp
Three Horse pub, Cefn Cribwr (ac ar-lein)
Sgwrs hanes gan Rob Evans', gyda Chymdeithas Hanes Bro Ogwr: 'Teithio gyda Gerald  Gymro 800 mlynedd yn ôl.' Mae'r sgwrs hon yn Gymraeg, ac mae hefyd ar gael ar Zoom.
MWY O WYBODAETH
Dydd Mawrth 10
11.30yb
Llyfrgell y Pîl
Sgwrs hanes* gan John Richards: 'Y Rhufeiniaid yn Ne Cymru'
MWY O WYBODAETH
Dydd Mawrth 10
6.45yp
Llyfrgell Pen-y-bont ar Ogwr
Sgwrs hanes* gan Martin Johnes: 'Welsh Not: Addysg a Seisnigeiddio Cymru'r 19eg Ganrif.
MWY O WYBODAETH
Dydd Mercher 11
1.45yb
Llyfrgell Porthcawl
Sgwrs hanes* gan Rhian Rees - 'Rôl menywod yng Nghymru'r Oesoedd Canol'.
MWY O WYBODAETH
Dydd Iau 12  
2yb
Llyfrgell Pencoed
Sgwrs hanes* gan Norena Shopland: 'Menywod yn y Gwaith glo yng Nghymru'. Bydd arddangosfa o Fenywod Pyllau Glo Cymru ar gael drwy'r prynhawn.
mwy o wybodaeth
Dydd Gwener 13
10.30yb - 12.30yp
Y Mem, Nantymoel
Arddangosfeydd hanes: arddangosfeydd cloddio am lo 'Gwaed Morgannwg' a 'Menywod Pyllau Glo Cymru'.

.

Dydd Sadwrn 14
10.15yb
Mawdlam
Taith Hanes Castell Cynffig* gyda Graham Loveluck-Edwards. Cerdded ar hyd y castell a strydoedd coll Cynffig hanesyddol.
MWY O WYBOADETH
Dydd Mawrth 17
7yb
Three Horseshoes pub, Cefn Cribwr
Sgwrs hanes* gan Graham Loveluck-Edwards: 'Tafarnau hanesyddol Cymru'.
MWY O WYBODAETH
Dydd Mercher 18
10yb - 12.30yp
Y Nyth, Parc Gwledig Bryngarw
Arddangosfeydd hanes: arddangosfeydd cloddio am lo 'Gwaed Morgannwg' a 'Menywod Pyllau Glo Cymru'.
MWY O WYBODAETH
Dydd Mercher 18
1.30yb
Y Nyth, Parc Gwledig Bryngarw
Sgwrs hanes* gan Dr James January-McCann: 'Casglu Enwau Lleoedd Cymru', olrhain hanes a datblygiad enwau lleoedd lleol yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr.
MWY O WYBODAETH
Dydd Gwener 20
2yp - 4.30yp
Awel y Môr, Porthcawl
Arddangosfa Hanes gan VisionFountain: 'Y tu ôl i'r Llinellau Piced'. Arddangosfa amlgyfrwng yw hon am streiciau’r glowyr 1984-85, ac mae'n cynnwys gweithgaredd Realiti Rhithwir.
Dydd Sadwrn 21
10.30yb
Pen-y-bont ar Ogwr a Thŷ Sant Ioan
Taith Hanes Tref Pen-y-bont ar Ogwr* gyda Graham Loveluck-Edwards. Ymwelwch â thirnodau a straeon Pen-y-bont ar Ogwr hanesyddol.

 .

Dydd Sadwrn 21
2yb
Parc a Bocs Signalau Bedford
Taith Gerdded Hanesyddol a Sgwrs gyda Chefn Gwyrd, mewn partneriaeth â Drysau Agored CADW. Mae'r daith gerdded yn dechrau ym maes parcio Gwaith Haearn Bedford ac yn gorffen ym Mocs Signalau Cyffordd Cefn.

.

Dydd Sadwrn 21
10yb -4yp

Capel y Tabernacl, Porthcawl

Diwrnod Agored yng Nghapel y Tabernacl Porthcawl, mewn partneriaeth â Drysau Agored CADW. Bydd teithiau o amgylch y capel, gweithgareddau i blant ac arddangosfa luniau o Borthcawl y 1930au.

.

Dydd Sadwrn 21
10yb – 4yp
Capel y Tabernacl, Pontycymer
Diwrnod Agored yng Nghapel y Tabernacl Porthcawl, mewn partneriaeth â Drysau Agored CADW. Bydd sgyrsiau hanes byr ac arddangosfeydd hanes yn cynnwys pobl enwog o Gwm Garw.

.

Dydd Sul 22
10yb
Yn dechrau o faes parcio Parc Gwledig Bryngarw
Taith beicio hanes* gydag Amanda Powell a Richard Williams: 'Taith beicio gylchol Glo a Chymuned i Gwm Garw' – dewch â'ch beic a'ch cyfarpar diogelwch eich hun.
MWY O WYBODAETH
Dydd Sul 22
10yb – 3yp
Y Nyth, Parc Gwledig Bryngarw
Arddangosfa hanes: 'Glo a chymuned yng Nghymru' ac arddangosfeydd glofaol.
MWY O WYBODAETH
Dydd Llun 23
2yb
Llyfrgell Pen-y-bont ar Ogwr
Sgwrs hanes* gan Dr Elin Jones: 'Hanes â’i draed ar y ddaear – darganfod hanes yn y ddaear o amgylch eich ardal leol'.
MWY O WYBODAETH
Dydd Mawrth 24
1.30yp
Llyfrgell y Pîl
Sgwrs hanes* gan David Pilling: 'Y gwrthryfel yn Ne-ddwyrain Cymru yn 1294-5 - gweithredu Morgan ap Maredudd a Meurig ap Dafydd, arweinwyr Cymru ym Morgannwg a Gwent'.
MWY O WYBODAETH
Dydd Mercher 25
1.45yp
Neuadd y Gweithwyr Blaengarw
Sgwrs hanes* gan Will Millard: 'Cymru Gudd - straeon cyfres y BBC', gan gynnwys straeon lleol a ffilm fideo.
MWY O WYBODAETH
Dydd Iau 26
2yp
Llyfrgell y Pîl
Sgwrs hanes* gan Debra John: 'Amy Dillwyn', adrodd hanes y nofelydd o Gymru, ymgyrchydd ffeministaidd a diwydiannwr benywaidd cynnar.
MWY O WYBODAETH
Dydd Gwener 27
11yb
Tŷ Sant Ioan, Pen-y-bont ar Ogwr
Sgwrs hanes* gan Phil Cope – 'Ffynhonnau Sanctaidd Cymru', gan ganolbwyntio ar un o drysorau cudd Cymru, ei ffynhonnau sanctaidd hanesyddol.

.

Dydd Sadwrn 28
11yb-3yp
Tŷ Sant Ioan, Pen-y-bont ar Ogwr
Diwrnod Agored yn Nhŷ Sant Ioan, yr annedd hynaf y mae modd byw ynddi ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mewn partneriaeth â Drysau Agored CADW. Gyda chyfle arbennig i gwrdd â'r saethwyr canoloesol!
MWY O WYBODAETH
Dydd Sadwrn 28
10yb – 4yp
Capel y Tabernacl, Pen-y-bont ar Ogwr
Diwrnod Agored gyda Chymdeithas Hanes Bro Ogwr a Siop Llyfrau Cymraeg Cant a Mil Mae'r diwrnod yn cynnwys Arddangosfa Hanes leol o Warchae Owain Glyndŵr ar Gastell Coety a sgyrsiau hanes byr bob awr, ar yr awr.

.

Dydd Sadwrn 28
11yb-3yp

Amgueddfa Porthcawl, Porthcawl

Diwrnod Agored yn Amgueddfa Porthcawl, mewn partneriaeth â Drysau Agored CADW.
MWY O WYBODAETH
Dydd Sul 29
11yb – 3yp

Tŷ Sant Ioan, Pen-y-bont ar Ogwr

Diwrnod Agored yn Nhŷ Sant Ioan, yr annedd hynaf y mae modd byw ynddi ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mewn partneriaeth â Drysau Agored CADW. Cyfle i gwrdd â'r saethwyr canoloesol.
MWY O WYBODAETH
Dydd Llun 30
7yp
Three Horseshoes pub, Cefn Cribwr
Sgwrs hanes* gan y darlunydd ail-greu llawrydd Chris Jones-Jenkins: 'Cyflwyniad i luniadau ail-greu hanesyddol yn yr ardal leol.' Mae'r sgwrs hon mewn partneriaeth â Chymdeithas Hanes Lleol Pen-y-bont ar Ogwr a'r Cylch.
MWY O WYBODAETH

Hoffech chi wybod mwy am eich hanes lleol, neu gefnogi eich cymdeithas hanes leol?

Isod mae rhestr gyda’r manylion cyswllt ar gyfer cymdeithasau hanes lleol.

Cymdeithas Hanes Teulu Morgannwg                                        secretary2@glamfhs.org.uk

Cymdeithas Hanes Cwm Llynfi                                                   neilperry382@btinternet.com

Cymdeithas Treftadaeth Cwm Garw                                           jarvismob@tiscali.co.uk

Cymdeithas Hanes Pen-y-bont ar Ogwr a’r Cylch                              committee.brid.hist.soc@gmail.com

Cefn Gwyrdd                                                                             masoncj4@hotmail.com

Cymdeithas Hanes Lleol Cwm Ogwr                                           ovlhs@ovlhs.co.uk

Cymdeithas Hanes Bro Ogwr                                                      arw.cleaves@gmail.com

Cymdeithas Porthcawl a Chymdeithas Hanesyddol Porthcawl     porthcawlmuseum@hotmail.com

Tŷ Sant Ioan, Pen-y-bont ar Ogwr                                               saintjohns@hotmail.com.uk

Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen – Llyfrgell Treftadaeth ac Archif    

history@awen-wales.com

Subscribe to our mailing list to receive our latest library news, updates and event information direct to your inbox.

or Unsubscribe