Oeddech chi'n gwybod y gallwch chi gyrchu dros 3,500 o ffotograffau trwy gatalog ar-lein y llyfrgell? Chwiliwch am leoliad a chyfyngwch eich chwiliad i "Ffotograffau".
Mae ancestry.com yn darparu mynediad at filiynau o gofnodion hanes teuluol chwiliadwy yn y DU. Pwysig - mae ar gael i'w ddefnyddio yn y llyfrgell yn unig.
Dysgwch am hanes eich teulu ar-lein. Pwysig - mae Find My Past ar gael yn Llyfrgell Y Llynfi yn unig; ffoniwch Y Llynfi ar 01656 754859 i neilltuo cyfrifiadur neu i gael rhagor o wybodaeth.
Mae Britannica Online Student yn fersiwn arbennig o’r gwyddoniadur clasurol sydd wedi’i anelu at ieuenctid 12 - 18 oed. I gael mynediad ato, y cyfan sydd ei angen arnoch chi yw cerdyn llyfrgell dilys.
Britannica Online yw'r gwyddoniadur clasurol sy'n cynnwys 123,000 o erthyglau ac mae'n cael ei ddiweddaru'n gyson. I gael mynediad ato, y cyfan sydd ei angen arnoch chi yw cerdyn llyfrgell dilys.
Mae Britannica Online Junior yn fersiwn arbennig o’r gwyddoniadur clasurol sydd wedi’i anelu at blant 5 - 11 oed. I gael mynediad ato, y cyfan sydd ei angen arnoch chi yw cerdyn llyfrgell dilys.
Ymarferwch eich prawf theori gyrru yn y DU gan ddefnyddio gwefan efelychu ar-lein hynod o realistig.Gellir ei ddefnyddio yn rhad ac am ddim a gallwch chi ei ddefnyddio gartref gan ddefnyddio rhif eich cerdyn llyfrgell.
Mae'r wefan hon yn darparu gwybodaeth am waith Newsplan Cymru a mynediad at gronfa ddata o bapurau newydd Cymru sydd ar gael mewn llyfrgelloedd naill ai ar ffurf papur neu ficroffilm.