Mae ein chwe llyfrgell lawn-amser, dwy lyfrgell gymunedol ran-amser a’r gwasanaeth dosbarthu Llyfrau ar Olwynion i gartrefi yn cael eu rheoli gan elusen gofrestredig Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Rydym hefyd yn cefnogi ac yn cyflenwi dwy lyfrgell mewn lleoliadau sy’n cael eu staffio a’u rheoli gan Halo Leisure ac sydd â chasgliad mawr o lyfrau. Mae ein hadnodd hanes lleol a theuluoedd ym Maesteg yn gartref i gasgliad sylweddol o ddeunydd ymchwil.
Diben Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yw ‘gwella bywydau pobl’ a thrwy ein llyfrgelloedd rydym yn ymrwymo i wella llythrennedd pobl o bob oed; cefnogi darllen er pleser drwy fentrau fel Sialens Ddarllen yr Haf; gwella lles ac ymdrin ag allgau digidol drwy ddigwyddiadau a gweithgareddau; a darparu cyfleoedd diduedd i fanteisio ar ffynonellau gwybodaeth dibynadwy. Ni oedd y gwasanaeth llyfrgell cyntaf yng Nghymru i ddileu dirwyon am ddychwelyd llyfrau’n hwyr.
Mae Llyfrgelloedd Awen yn cynnal arolygon i oedolion a phlant. Roedd canlyniadau arolwg 2021/22 yn amlygu pwysigrwydd y staff, y gweithgareddau, y lle a’r adnoddau (llyfrau, cyfrifiaduron, argraffwyr ac ati) yr ydym yn eu darparu i’n cwsmeriaid. Yn yr arolwg oedolion, roedd 64% wedi nodi’r staff yn gryfder; roedd eraill wedi nodi’r lle, yr awyrgylch neu amgylchedd y llyfrgell ac adroddodd dros chwarter y rhai a atebodd yr effaith negyddol y byddai cael gwared ar y llyfrgell yn ei chael ar eu hiechyd meddwl.
© Awen Cultural Trust, All Rights Reserved. Registered Charity No. 1166908
Website by Aspire 2Be