Dewis y Mis gan aelodau’r Staff

An open book.

Gall fod yn anodd dewis eich llyfr nesaf i ddarllen, felly bob mis, rydyn ni’n gofyn i staff Llyfrgelloedd Awen argymell llyfr i’ch helpu chi i ddewis eich un chi. Y mis hwn, fe ofynnon ni i Sarah a Julie pa lyfrau sydd wedi’u hysbrydoli fwyaf.

Meddai Sarah: “Un o fy hoff lyfrau erioed yw cyfres The Famous Five gan Enid Blyton. Roeddwn i wrth fy modd â’r rhain pan oeddwn i’n tyfu i fyny. Ond y llyfr o’r amser hwnnw sydd wedi aros gyda fi fwyaf yw A Summer to Die gan Lois Lowry. Mae’n stori am gystadleuaeth a chenfigen rhwng chwiorydd tan fod yr hyn sydd y tu hwnt i’r dychymyg yn digwydd. Fe dorrodd fy nghalon i’n llwyr”.

Meddai Julie: “Un o fy hoff lyfrau i yw Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros. Yn ogystal ag ennill Gwobr Carnegie i awdur o Gymru am y tro cyntaf, dyma’r enillydd cyntaf erioed sy’n llyfr wedi’i gyfieithu!

“Mae’n llyfr i Oedolion Ifanc ond gwrandewch arna’ i, oherwydd os ydych chi’n colli’r llyfr yma – rydych chi wir yn colli cyfle. Dyma lyfr bach sy’n mynd i’r afael â materion mawr. Wedi’i hysgrifennu’n sensitif ac yn ddawnus, mae’r stori deimladwy yn eich rhwymo chi i fywydau Dylan a’i fam. Y caledi, y llawenydd, yr ansicrwydd, yr ofn; y bond rhyfeddol ond clostroffobig rhwng y fam a’i mab, sy’n gorfod tyfu’n rhy gyflym.

“Mae eu stori nhw’n aros gyda chi – chi’n cael eich hun yn meddwl amdanyn nhw fisoedd ar ôl i’r llyfr fod nôl ar silff y llyfrgell. Rydych chi’n cwestiynu sut fyddech chi’n ymdopi; a fyddai hynny’n ffordd well o fyw? Peidiwch â’i golli”.

Rhannu’r dudalen hon

Subscribe to our mailing list to receive our latest library news, updates and event information direct to your inbox.

or Unsubscribe