Sesiynau Crefft i Oedolion yn The Bridge

Untitled design (87)

Elusen leol yw The Bridge sydd wedi’i lleoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr a’i datganiad cenhadaeth yw –  chwalu rhwystrau allgau cymdeithasol sy’n atal pobl rhag creu pontydd i ddyfodol mwy cadarnhaol.

Mae eu helusen yn darparu gwasanaethau mewn tri maes allweddol:

  • Canolfan Gymunedol
  • Gwasanaethau Ieuenctid
  • Gwirfoddoli

Bydd staff ein llyfrgelloedd yn bresennol yn The Bridge i gynnal rhai sesiynau crefft i oedolion yn ystod y misoedd nesaf. Mae’r sesiynau hyn ar gyfer oedolion o bob oed.

Bydd y sesiwn nesaf ddydd Gwener, 24 Tachwedd – 10:30am – 12pm.

Yn y sesiwn hon, bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn gwneud cardiau Nadolig.

Mae’r sesiwn yn rhad ac am ddim, a’r cyntaf i’r felin gaiff falu. Archebwch eich lle drwy gysylltu â: 01656 647891. Neu cysylltwch â The Bridge ar-lein.

Bydd sesiwn arall hefyd ddydd Gwener, 22 Rhagfyr – 10:30 am – 12 pm.

Mae’r prosiect hwn wedi ei ariannu gan lywodraeth y DG drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DG, mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Rhannu’r dudalen hon

Subscribe to our mailing list to receive our latest library news, updates and event information direct to your inbox.

or Unsubscribe