Cwis Sirol Diwrnod y Llyfr Llyfrgelloedd Awen

Book Club Quiz Final 2023_127

Yn dilyn ymlaen o’n dathliadau Diwrnod y Llyfr ym mis Ebrill, cynhaliwyd ein Cwis Sirol Diwrnod y Llyfr ddoe ym Mhafiliwn y Grand, Porthcawl.

Roedd y cwis yn cynnwys cyfres o gwestiynau, a arweiniodd wedyn at rownd benderfynu ar gyfer yr ail safle.

Llongyfarchiadau mawr i Ysgol Gynradd Coety a oedd yn fuddugol, a da iawn hefyd i Ysgol Gynradd Llangrallo a ddaeth yn ail.

Hoffem ddweud diolch yn fawr a da iawn hefyd i’r holl ysgolion a disgyblion a gymerodd ran.

Diolch yn fawr hefyd i Faer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd William Kendall, am fod yn bresennol a chyflwyno’r gwobrau i’r buddugwyr a’r ail orau.

Diolch hefyd i holl staff Awen a oedd yn rhan o drefnu’r diwrnod.

Meddai Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen:

“Roedd yn wych gweld cynifer o ysgolion cynradd lleol yn cymryd rhan mewn rownd derfynol a oedd yn agos iawn yn y pen draw, gan arwain at sefyllfa rownd benderfynu. Llongyfarchiadau i Ysgol Gynradd Coety sef pencampwyr ein sir a’r ail orau, Ysgol Gynradd Llangrallo. Diolch i’n Maer, y Cynghorydd William Kendall am rannu’r gwobrau ac am wneud argraff wych arnom trwy ddarllen ei gerdd ei hun.

“Er ei bod hi’n bron i 25 mlynedd ers iddi ddechrau gyntaf, mae’r gystadleuaeth hon yn parhau i fynd o nerth i nerth, â phob ysgol gynradd ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael ei gwahodd i gymryd rhan. Mae’n gyfle gwych i ni gyd annog a dathlu boddhad darllen ac i ddisgyblion gynrychioli eu hysgol mewn cystadleuaeth i’r sir gyfan.”

Rydym eisoes yn gynhyrfus ac yn edrych ymlaen at gwis y flwyddyn nesaf!

Rhannu’r dudalen hon

Subscribe to our mailing list to receive our latest library news, updates and event information direct to your inbox.

or Unsubscribe