Diweddariadau Llyfrgell Pencoed

IMG_20230203_093449

Ddydd Gwener 3 Chwefror, dechreuodd y contractwr ar y gwaith o dynnu’r hen reiliau ar y grisiau i lyfrgell y plant ar y llawr cyntaf a gosod rhai newydd – bydd y rhai newydd yn rhai gwydr, cyfoes a fydd yn fwy diogel a byddant yn gwneud y grisiau yn llawer goleuach.

Mae waliau’r ystafell gyfarfod wedi’u gosod, a bydd y waliau gwydr a’r drysau yn cyrraedd cyn bo hir.

Ddydd Mercher, bydd y gwaith preimio yn dechrau cyn paentio’r safle cyfan.

Tra bod y gwaith yn cael ei wneud, mae ein tîm gwych yn dal i gynnig gwasanaeth casglu ac archebu llyfrau o Festri Capel Salem. Gallwch bori detholiad o bob math o lyfrau, cael cymorth â thechnoleg ar gyfer eich dyfeisiau eich hun, a chael ychydig o waith argraffu a ffotocopïo A4 du a gwyn wedi’i wneud.

Mae’r tîm yn cynnal llyfrgell dros dro o Ysgol Gynradd Pencoed ar ddiwedd y diwrnod ysgol bob dydd Llun, ac mae ein sesiynau bownsio a rhigwm, amser stori a chrefft a’r prynhawniau crefft i oedolion yn dal i gael eu cynnal felly cysylltwch â ni neu dilynwch ni ar-lein i gael y manylion.

Mae gennym gyfle i grŵp darllen newydd a grwpiau diddordeb cymunedol eraill ffurfio a defnyddio ein hystafell gyfarfod gymunedol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dechrau neu fod yn rhan o Grŵp Darllen, grŵp sgwrsio Cymraeg, neu os oes gennych syniad ar gyfer rhywbeth gwahanol cysylltwch â ni ar Facebook neu drwy e-bost – pencoed.library@awen-wales.com

 

 

Rhannu’r dudalen hon

Shelves of books.

Rhestr Llyfrau Newydd

Oes diddordeb gennych chi yn y llyfrau newydd sydd ar gael yn eich llyfrgell leol? Mae gennym amrywiaeth o lyfrau ffuglen a ffeithiol ar gael o mis Gorffennaf. Ffuglen: Farewell,

Darllen Rhagor

Subscribe to our mailing list to receive our latest library news, updates and event information direct to your inbox.

or Unsubscribe