Mae Sialens Fach y Gaeaf 2022

Winter-Reading-Challenge-FACEBOOK

Mae Sialens Fach y Gaeaf 2022, a gyflwynir gan yr Asiantaeth Darllen mewn partneriaeth â’r Grŵp Amgueddfa Wyddoniaeth, yn digwydd!

Yn ystod Sialens Ddarllen yr Haf 2022 fe wnaeth miloedd o blant ddarllen ac archwilio gwyddoniaeth ac arloesedd fel rhan o thema eleni, Teclynwyr. Wrth i’r tywydd oeri a gwyliau’r gaeaf agosáu, rydym yn ôl gyda mwy o arbrofion llawn hwyl ac anogaeth i ddarllen.

Gall plant ymuno â’r Teclynwyr wrth iddyn nhw ddefnyddio’u dyfeisgarwch a’u creadigrwydd i gadw pawb wedi’u diddanu yn ystod storm eira. Paratowch am arbrofion cŵl i’w gwneud gartref ac i ddysgu ar hyd y ffordd wrth i chi ddarllen er mwynhad yn Sialens Fach y Gaeaf! Mae’r Sialens yn para o 1 Rhagfyr 2022 hyd 20 Chwefror 2023.

Bydd Sialens Ddarllen y Gaeaf yn cynnwys tri ymweliad â’r llyfrgell. I ddechrau, bydd angen i’r plant ymweld â’r llyfrgell i gofrestru ar gyfer y sialens pan fyddan nhw’n casglu eu llyfrau cyntaf. Pan fyddan nhw wedi darllen y llyfrau, bydd angen iddyn nhw ddod yn ôl ar gyfer yr ail ymweliad pan fyddan nhw’n dychwelyd y llyfrau ac yn eu cyfnewid am rai eraill. Pan fyddan nhw wedi darllen y rhain, bydd angen iddyn nhw ddod yn ôl ar gyfer y trydydd ymweliad, sef yr un olaf, pan fyddan nhw’n cwblhau’r sialens ac yn derbyn eu gwobrau am wneud hynny.

Bydd llawer o wobrau ar gael, gan gynnwys tystysgrifau a medalau! Cadwch lygad ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael mwy o wybodaeth, ac yn y cyfamser, ewch i Sialens Ddarllen yr Haf i gael mwy o wybodaeth am y sialens.

Rhannu’r dudalen hon

Shelves of books.

Rhestr Llyfrau Newydd

Oes diddordeb gennych chi yn y llyfrau newydd sydd ar gael yn eich llyfrgell leol? Mae gennym amrywiaeth o lyfrau ffuglen a ffeithiol ar gael o mis Gorffennaf. Ffuglen: Farewell,

Darllen Rhagor

Subscribe to our mailing list to receive our latest library news, updates and event information direct to your inbox.

or Unsubscribe