Rhaglen Croeso Cynnes Awen

Untitled design (22)

Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau rhad ac am ddim y gaeaf hwn ledled y fwrdeistref sirol o 1st Tachwedd 2022 i 31st Mawrth 2023. P’un a ydych chi’n grefftwr, yn ddarllenwr, yn weithiwr neu ddim ond yn chwilio am amser i ffwrdd gyda ffrindiau, byddwch yn sicr o ddiodydd poeth am ddim a chroeso cynnes pa bynnag leoliad a ddewiswch! 

Bydd ein llyfrgelloedd yn parhau i agor eu calonnau (a’u drysau!) yn y ffordd arferol i bawb y gaeaf hwn a dyma atgof o’r hyn rydym yn ei gynnig yn safonol (ac am ddim!): 

  • Staff hynod gyfeillgar 
  • Wifi am ddim a digon o le i eistedd, gweithio, darllen neu ymlacio  
  • Papurau newydd, cylchgronau ac wrth gwrs, digon o lyfrau! 
  • Rhaglen weithgareddau eang gan gynnwys grwpiau darllen, sesiynau crefft, amser stori a llawer mwy 

Rydych bob amser yn sicr o gael croeso cynnes yn ein llyfrgelloedd ond y gaeaf hwn bydd hyd yn oed yn gynhesach oherwydd byddwn hefyd yn cynnig: 

  • Te, coffi, siocled poeth a hyd yn oed cwpanaid o gawl am ddim! 
  • Rhaglen weithgareddau well wedi’i chyflwyno gan ein staff hynod gyfeillgar 
  • Jig-sos, gemau bwrdd a setiau Lego ym mhob llyfrgell 

Edrychwch ar ein gwefan am ragor o wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd yn eich llyfrgell.

Rhannu’r dudalen hon

Shelves of books.

Rhestr Llyfrau Newydd

Oes diddordeb gennych chi yn y llyfrau newydd sydd ar gael yn eich llyfrgell leol? Mae gennym amrywiaeth o lyfrau ffuglen a ffeithiol ar gael o mis Gorffennaf. Ffuglen: Farewell,

Darllen Rhagor

Lansio Sialens Ddarllen yr Haf 2024

Bydd Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn lansio Sialens Ddarllen yr Haf 2024 a’u rhaglen haf o weithgareddau llyfrgell gyda digwyddiad hwyliog i’r teulu yng Nghaeau Newbridge ym Mhen-y-bont ar Ogwr ddydd

Darllen Rhagor

Subscribe to our mailing list to receive our latest library news, updates and event information direct to your inbox.

or Unsubscribe