Swyddi Gwag Presennol

DSC_2659 (1)

Cynorthwy-ydd Llyfrgell (20 awr) Dros dro – Lyfrgell Pen-y-bont 

Sail: Rhan Amser – 20 awr y wythnos, am hyd at 12 mis

Cyflog: £11,424 – £12,025 y flwyddyn

Lleoliad: Llyfrgell Pen-y-bont

Yn Atebol I: Goruchwyliwr y Llyfrgell

Dyddiad Cau: Dydd Mercher 13 Mawrth 2024

 

Fel cynorthwyydd llyfrgell, byddwch yn gweithio ar amrywiaeth o dasgau, yn amrywio o helpu ymwelwyr llyfrgelloedd Awen, i gyflwyno digwyddiadau.

Bydd ymrwymiad i ddarparu sgiliau gwasanaeth cwsmer arbennig yn hanfodol, am eich fod yn mynd i bo’n rhoi help a chymorth i’r unigolion bydd yn ymweld a’n llyfrgelloedd, bydd yn gallu cynnwys cyfeirio at adnoddau defynyddiol, dewis y llyfr gywir neu defnyddio’n cyfleusterau, fel y cyfrifiaduron sydd ar gael.

Rydym angen person hyderus a brwydfrydig i helpu gyflwyno’n gweithgareddau a digwyddiadau, sy’n amrywio o ‘Bounce & Rhyme’ ar gyfer babanod, clybiau codio a groupiau darllen i grwpiau coffi sy’n cyfeillgar ar gyfer unigolion gyda dementia.

 

Manteision gweithio i Awen;

  • Pensiwn 6% cyfatebol
  • Gostyngiad o 20% yng Nghaffi Awen
  • Cyfle i fanteisio ar Blatfform Buddion Awen (h.y. gostyngiadau mewn siopau ar y stryd fawr, archfarchnadoedd, bwytai, gwyliau a sinema)
  • Tocynnau pantomeim am ddim
  • Aelodaeth ostyngedig yng Nghanolfan Hamdden Halo
  • Cyfle i fanteisio ar Health Assured
  • Sefydliad sy’n Ystyriol o Deuluoedd

 

Gofynion;

Cliciwch yma ar gyfer amlinelliad llawn y swydd.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am weithio gyda ni.

 

Gwybodaeth arall;

Yn Awen, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein pobl wrth wraidd popeth a wnawn. Rydym am feithrin diwylliant sefydliadol sy’n gwerthfawrogi pobl o bob cefndir ac sy’n frwd dros wella amrywiaeth yn ein gweithlu.

Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr o bob cefndir, ac nid ydym yn gwahaniaethu ar sail anabledd, hil, lliw, ethnigrwydd, rhywedd, hunaniaeth o ran rhywedd, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, oedran, nac unrhyw gategori arall a ddiogelir gan y gyfraith.

Fel rhan o’n hymrwymiad i wella amrywiaeth yn ein gweithlu, rydym yn darparu cynllun gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl neu bobl o’r mwyafrif byd-eang sy’n bodloni gofynion sylfaenol y swydd.

Fel rhan o’r broses ymgeisio, gallwch ofyn am gael eich ystyried yn rhan o’r cynllun hwn os ydych o’r mwyafrif byd-eang, neu os oes gennych nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith negyddol ‘sylweddol’ neu ‘hirdymor’ ar eich gallu i wneud gweithgareddau beunyddiol arferol. Ar yr amod eich bod yn bodloni gofynion sylfaenol y rôl, cewch eich gwahodd i gyfweliad.

Y gofynion sylfaenol yw’r meini prawf hanfodol a amlinellir ym manyleb y person ar gyfer pob swydd. Y meini prawf hyn yw’r hyn y bydd angen i ddeiliad y swydd ddangos tystiolaeth ohonynt, drwy ei ffurflen gais.

Er mwyn gwneud cais, cwblhewch ein ffurflen gais ar-lein, ac os bydd angen fformat hygyrch arall neu unrhyw gymorth arall arnoch gyda’r broses recriwtio, cysylltwch â ni drwy e-bostio support@awen-wales.com neu ffonio 01656 754825.

Os cewch eich dewis ar gyfer cyfweliad ac hoffech ymweld â’r ganolfan, anfonwch e-bost i support@awen-wales.com.

I gael trafodaeth anffurfiol am y rôl hon, e-bostiwch rebecca.evans@awen-wales.com

*Noder: wrth gyflwyno eich ffurflen gais, cewch neges e-bost yn gofyn i chi gwblhau holiadur Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Defnyddir y data hyn at ddibenion ystadegol yn unig ac nid oes modd adnabod pwy yw unigolyn. Fe’u defnyddir gan y Tîm Pobl i gefnogi ein hymrwymiad i Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, a bydd yn ein helpu i wella hygyrchedd ac amrywiaeth yn ein hymgyrchoedd hysbysebu a recriwtio.

Cofiwch edrych yn eich ffolderi sbam a sothach.

Rhannu’r dudalen hon

Subscribe to our mailing list to receive our latest library news, updates and event information direct to your inbox.

or Unsubscribe