Rhwng Dydd Iau 21 a Dydd Mercher 27 Tachwedd, bydd ychydig o darfu am gyfnod byr ar ein gwasanaethau i aelodau’r llyfrgell, wrth i ni drosglwyddo i system Cymru gyfan newydd ar gyfer rheoli ein llyfrau a data cwsmeriaid.
Yn ystod y cyfnod hwn, byddwch chi’n dal yn gallu benthyg eitemau gan eich llyfrgell leol a’u dychwelyd yno, ond ni fyddwch chi’n gallu ymaelodi, chwilio’r catalog, newid manylion eich cyfrif nac archebu llyfrau ar-lein.
Rydym ni hefyd yn disgwyl i hyn effeithio ar y gwasanaethau canlynol:
- Ein cyfrifiaduron cyhoeddus;
- eResources (ni ddylai effeithio ar eitemau sydd eisoes wedi’u lawrlwytho);
- Libby; ac
- Ein catalog ar-lein a’ch cyfrif.
Pan fydd ar waith, bydd y system rheoli llyfrgelloedd newydd yn dod â manteision sylweddol i holl aelodau’r llyfrgell, gan gynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch pryd mae eich hoff awdur yn cyhoeddi llyfr, neu bryd mae llyfrau ar eich pwnc dewisol yn cyrraedd.
Byddwn yn parhau i ddiogelu’ch data drwy gydol y cyfnod pontio a thu hwnt. Siaradwch ag aelod staff os ydych chi’n pryderu am hyn, neu darllenwch Bolisi Preifatrwydd Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yma: https://www.awen-wales.com/wp-content/uploads/2023/08/Privacy-Notice-Combined.pdf.