Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, yr elusen sy’n rheoli llyfrgelloedd mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn annog trigolion lleol i ymuno â’u her ddarllen gyntaf erioed i oedolion pan fydd yn lansio ddydd Sadwrn 6.ed Gorffennaf.
Mae ‘Her 21 Llyfr’ yn gobeithio annog oedolion i archwilio teitlau newydd, darganfod genres newydd ac ehangu eu gorwelion darllen. Gellir casglu ‘taflenni bingo’ am ddim o Lyfrgelloedd Awen a bydd gwobrau* yn cael eu rhoi ar ôl darllen 7, 14 a 21 o lyfrau.
Gellir benthyca llyfrau, eLyfrau, llyfrau sain ac eLyfrau Llafar o bob thema a gellir eu benthyca o’r llyfrgell, ac mae’r themâu’n cynnwys: llyfr a gafodd ei droi’n ffilm neu gyfres deledu; llyfr gan awdur Cymreig; a llyfr a ysgrifennwyd yn wreiddiol mewn iaith arall.
Mae tîm Llyfrgelloedd Awen wedi dewis 21 o’u hoff ddarlleniadau ar gyfer pob un o’r themâu er mwyn helpu aelodau i gychwyn arni. Bydd y rhain ar gael ar y wefan www.awen-llyfrgelloedd.com ac anogir darllenwyr i rannu eu cynnydd ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #21BookChallenge.
Dywedodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen:
“Bob blwyddyn, mae miloedd o blant oed ysgol yn mwynhau Sialens Ddarllen yr Haf sy’n cael ei rhedeg gan ein llyfrgelloedd mewn partneriaeth â’r Asiantaeth Ddarllen. Roedd ein cydweithwyr yn meddwl ei bod yn hen bryd i’r oedolion brofi rhywfaint o’r hwyl hwn a chael gwobrau am ddarllen rhywbeth ychydig yn wahanol i’r arfer!
“Yn ogystal â’r cyfle i gasglu lliain sychu llestri a bag tote argraffiad cyfyngedig, mae cymryd rhan yn Her 21 Llyfr yn cefnogi buddion emosiynol a meddyliol hefyd. Mae darllen am ddim ond 6 munud yn lleihau lefelau straen o 68%, yn fwy effeithiol na gwrando ar gerddoriaeth, mynd am dro neu gael paned o de.”
*tra bod stociau’n para