Cystadleuaeth Barddoniaeth – Gŵyl Llên Plant Pen-y-Bont Ar Ogwr

BCLF Poetry Competition Blog Graphic

Ydych chi wrth eich bodd yn ysgrifennu? Dyma’r gystadleuaeth i chi! Dathlwch Ŵyl Llên Plant Pen-y-bont ar Ogwr ac ysgrifennwch gerdd (hyd at 500 o eiriau) wedi’i hysbrydoli gan eich cariad at ddarllen, ysgrifennu, llyfrau neu straeon.

Bydd y gystadleuaeth yn dechrau ddydd Sadwrn, 20 Mai 2023 ac yn gorffen ddydd Sadwrn, 17 Mehefin 2023. Cyflwynwch eich cerdd i’ch Llyfrgell Awen leol. Bydd yr enillydd yn cael talebau llyfrau gwerth £25, bag rhoddion ysgrifennu a fersiwn ddarluniadol o’i gerdd gan artist proffesiynol!

Bydd yr ail orau yn cael copi o ‘Poems to live your life by’ gan Chris Riddell, a bag rhoddion ysgrifennu. Bydd y cerddi buddugol yn cael eu harddangos yn Llyfrgelloedd Awen ac ar ein gwefan.

Mae’r manylion isod:

Dyddiad dechrau – Dydd Sadwrn, 20 Mai 2023.

Dyddiad cau – Dydd Sadwrn, 17 Mehefin 2023.

Dylid cyflwyno pob cerdd i’ch llyfrgelloedd lleol erbyn y dyddiad cau.

Awrgrymedig ystod oedran – plant 12-16 oed. Gellir hysbysebu mewn Ysgolion Cyfun hefyd.

Uchafswm o 500 o eiriau.

Gwobrau – Gwobr Gyntaf – talebau llyfrau gwerth £25, bag rhoddion ysgrifennu a fersiwn ddarluniadol o’ch cerdd gan artist proffesiynol.

Ail Wobr – Copi o ‘Poems to live your life by’ gan Chris Riddell a bag rhoddion ysgrifennu.

Thema – Darllen neu lyfrau.

Inspiring a lifelong love of reading, celebrating stories and bringing books to life. 
Yn ysgogi cariad oes at ddarllen, yn dathlu straeon ac yn dod â llyfrau’n fyw.

Yn rhan o Ŵyl Llên Plant Pen-y-bont ar Ogwr, wedi ei chefnogi gan Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. 

Part of Bridgend Children’s Literature Festival supported by Awen Cultural Trust, Arts Council of Wales, Welsh Government and Bridgend County Borough Council. 

Noddir y tocynnau llyfr yn garedig gan CYNGOR LLYFRAU CYMRU.

 

Rhannu’r dudalen hon

Shelves of books.

Rhestr Llyfrau Newydd

Oes diddordeb gennych chi yn y llyfrau newydd sydd ar gael yn eich llyfrgell leol? Mae gennym amrywiaeth o lyfrau ffuglen a ffeithiol ar gael o mis Gorffennaf. Ffuglen: Farewell,

Darllen Rhagor

Subscribe to our mailing list to receive our latest library news, updates and event information direct to your inbox.

or Unsubscribe