Cynllun Newydd ar gyfer Benthyca Cyfrifiadur Llechen

Untitled design (10)

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Llyfrgelloedd Awen wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd i sefydlu cynllun newydd ar gyfer benthyca cyfrifiadur llechen i holl aelodau’r llyfrgell. Bydd 20 cyfrifiadur llechen ar gael i’w benthyca, am hyd at 3 wythnos ar y tro.

Mae gan bob cyfrifiadur llechen ei gerdyn SIM ei hun yn llawn data, fel y gall benthycwyr fynd at y rhyngrwyd heb orfod bod â Wi-Fi yn eu cartrefi. Bydd y cyfrifiaduron llechen hefyd yn cael eu llwytho ymlaen llaw ag apiau a chysylltiadau defnyddiol a fydd yn eich helpu i ddechrau ar y gwaith, gan gynnwys:

  • BorrowBox ar gyfer e-Lyfrau ac e-Lyfrau Llafar
  • Libby ar gyfer e-Gylchgronau
  • Gwefan Llyfrgelloedd Awen
  • Gwefan Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Nod y cynllun newydd yw creu mwy o fynediad i’r byd digidol, boed hynny ar gyfer siopa ar-lein, galwadau fideo i berthnasau, defnyddio un o’r apiau e-Lyfrau ac e-Gylchgronau rhad ac am ddim o’r llyfrgell, ymuno â chwrs ar-lein, gwylio fideos anifeiliaid anwes doniol ar YouTube – mae cymaint o bethau y gall mynediad i’r byd digidol eu cynnig i chi, a byddwch yn cryfhau eich sgiliau cyfrifiadurol a’ch hyder drwy roi cynnig arni!

Mae gan bob un o Lyfrgelloedd Awen sesiynau Galw Heibio Digidol i ddangos i chi sut i fanteisio’n llawn ar eich cyfrifiadur llechen, neu gallwn eich helpu i gofrestru am gymorth TG am ddim gyda’n ffrindiau yn Cymunedau Digidol Cymru a Learn Direct.

Mae angen i chi fod yn aelod o’r llyfrgell i fenthyg cyfrifiadur llechen, ond mae  ymuno â’r llyfrgell yn RHAD AC AM DDIM. Ewch i’ch llyfrgell leol a bydd aelodau’r staff yn hapus i’ch cynorthwyo.

Os oes gennych ddiddordeb mewn benthyca cyfrifiadur llechen, galwch heibio i’n gweld, cysylltwch â ni ar 01656 754840 neu e-bostiwch tabletloanscheme@awen-wales.com

Rhannu’r dudalen hon

Subscribe to our mailing list to receive our latest library news, updates and event information direct to your inbox.

or Unsubscribe