Sialens Ddarllen yr Haf Lansiad

website

Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn gyfle gwych i blant gymryd rhan yn rhaglen ddarllen er mwynhad fwyaf y DU! Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn annog plant rhwng 4 ac 11 oed i barhau i ddarllen yn ystod gwyliau haf yr  ysgol.

Roedd y digwyddiad lansio diweddar yng Nghaeau Newbridge yn llwyddiant ysgubol gydag o leiaf 260 o blant yn cofrestru ar y diwrnod!  Roedden nhw i gyd yno gyda rhieni neu warcheidwaid, ac ymunodd llawer â’r Helfa Sporion i ddod o hyd i’r holl gliwiau!

Roedd llawer o weithgareddau hwyliog i’r plant eu mwynhau, o gestyll bownsio ac eitemau chwarae eraill wedi’u llenwi ag aer, i grefftau, robotiaid, amser stori, gwneud llysnafedd ar stondin Gwyddoniaeth Wallgo a rhedeg ras rwystrau. Cawsom ymweliad arbennig gan arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd Huw David OBE, a chofrestrodd ei fab ar gyfer y sialens hefyd.

Cafodd yr holl hwyl ei gofnodi ar gamera gan ein fideograffydd Joe. Dilynwch y ddolen hon – Vimeo ac efallai y gwelwch chi eich hun yn y fideo Lansio Sialens Ddarllen yr Haf!

Diolch yn arbennig i’n holl staff, a’r holl wirfoddolwyr a phobl a helpodd i wneud y diwrnod yn llwyddiant ysgubol ac i bawb a ddaeth draw.

Cofiwch fod Sialens Ddarllen yr Haf ymlaen drwy fis Awst, a dechrau Medi. Mae amser ar ôl i blant gofrestru. Bydd deunydd ysgrifennu, medalau, tystysgrifau a mwy i’w hennill pan fydd y sialens wedi ei chwblhau!

I gofrestru, ewch i’ch llyfrgell leol, neu ewch i Sialens Ddarllen yr Haf i gymryd rhan nawr.

 

Rhannu’r dudalen hon

Shelves of books.

Rhestr Llyfrau Newydd

Oes diddordeb gennych chi yn y llyfrau newydd sydd ar gael yn eich llyfrgell leol? Mae gennym amrywiaeth o lyfrau ffuglen a ffeithiol ar gael o mis Gorffennaf. Ffuglen: Farewell,

Darllen Rhagor

Lansio Sialens Ddarllen yr Haf 2024

Bydd Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn lansio Sialens Ddarllen yr Haf 2024 a’u rhaglen haf o weithgareddau llyfrgell gyda digwyddiad hwyliog i’r teulu yng Nghaeau Newbridge ym Mhen-y-bont ar Ogwr ddydd

Darllen Rhagor

Subscribe to our mailing list to receive our latest library news, updates and event information direct to your inbox.

or Unsubscribe