Sialens Ddarllen yr Haf

new summer reading challenge facebook cover photo

Mae Her Ddarllen yr Haf yn annog plant 4 i 11 oed i osod her ddarllen i’w hunain i helpu i atal ‘dip’ darllen yr haf. Gall hyn ddigwydd os nad oes ganddyn nhw fynediad rheolaidd i lyfrau ac anogaeth i ddarllen er pleser.

Bob blwyddyn mae’r Her, a gyflwynir gyda chefnogaeth llyfrgelloedd cyhoeddus, yn ysgogi dros 700,000 o blant i barhau i ddarllen er mwyn meithrin eu sgiliau a’u hyder.

Cofrestrodd dros 2500 o blant yn sir Pen-y-bont ar Ogwr i’r Her yn 2019. Yn 2021 roeddem yn dychwelyd ar ôl pandemig Covid-19 ac roedd dros 1500 o blant wedi ymrwymo i’r her, a oedd yn anhygoel gyda’r holl gyfyngiadau a oedd yn dal i fod ar waith. Gadewch i ni wneud 2022 ein blwyddyn orau hyd yma drwy annog pob plentyn i ymuno â’r Her eleni.

Eleni, mae’r Asiantaeth Ddarllen yn gweithio mewn partneriaeth â Grŵp Teclynwyr yr Amgueddfa Wyddoniaeth, sef Her wyddoniaeth ac arloesi a fydd yn ysgogi chwilfrydedd plant am y byd o’u cwmpas.

Drwy gymryd rhan yn yr Her bydd plant yn gallu ymuno â chwe theclynwr ffuglen. Mae’r cymeriadau – a ddaw yn fyw gan yr awdur a’r darlunydd plant Julian Beresford – yn defnyddio eu chwilfrydedd a’u rhyfeddod i ddeall y wyddoniaeth y tu ôl i ystod eang o ddiddordebau o ffasiwn a thechnoleg i goginio a cherddoriaeth.

Darllenwch lyfrau a chael gwobrau gan eich Llyfrgell Awen leol, sy’n cynnwys sticeri, magnetau, a theclynnau cudd eraill. Bydd ein llyfrgelloedd hefyd yn cynnal digwyddiadau ac yn gwahodd gwesteion arbennig i gadw’r plant yn brysur yn ystod y gwyliau wedi’u hysbrydoli gan y thema eleni.

Bydd yr Her yn cael ei lansio yn ein llyfrgelloedd ddydd Sadwrn 9  Gorffennaf ac yn parhau tan ganol mis Medi.

Rhannu’r dudalen hon

Shelves of books.

Rhestr Llyfrau Newydd

Oes diddordeb gennych chi yn y llyfrau newydd sydd ar gael yn eich llyfrgell leol? Mae gennym amrywiaeth o lyfrau ffuglen a ffeithiol ar gael o mis Gorffennaf. Ffuglen: Farewell,

Darllen Rhagor

Subscribe to our mailing list to receive our latest library news, updates and event information direct to your inbox.

or Unsubscribe