Ffenestri Ffantastig – Pecynnau Deunyddiau – £2.50

Untitled design (1)

Cymerwch ran yn ein prosiect celf cartref a chrëwch ddyluniadau ffenestri ffantastig. Mae ein pecynnau’n costio £2.50 yn unig ac maent yn cynnwys pum dalen papur siwgr du A2, tâp gludiog, glud, sialc, a phapur sidan lliw hyfryd. Gall yr holl gynhwysion hyn eich helpu i greu arddangosfa ffenestr arbennig i’r gymdogaeth ei gweld, ychwanegwch rywfaint o greadigrwydd a neilltuwch rywfaint o’ch amser i fod yn oriel ar-lein ar draws Pen-y-bont ar Ogwr.

Y cyfan sydd ei angen arnoch yw siswrn neu gyllell grefft a rhywfaint o ysbrydoliaeth.

Yn addas i blant 10 oed a hŷn, yn llawer o hwyl a sbri i’r teulu cyfan!

Mae pecynnau ar gael yn nifer o Leoliadau Awen o 15 – 25 Chwefror. Dyma’r lleoliadau:

  • Pafiliwn y Grand
  • Neuadd y Gweithwyr Blaengarw
  • Llyfrgell Maesteg
  • Llyfrgell Pencoed
  • Llyfrgell Porthcawl
  • Llyfrgell Pen-y-bont ar Ogwr
  • Llyfrgell Y Pîl
  • Llyfrgell Abercynffig

Neuadd y Gweithwyr Blaengarw – Ffenestri Ffantastig – Gweithdai Ffenestri Arddangos Cymunedol

Dewch i’n helpu i greu rhai ffenestri arddangos hyfryd ar gyfer Neuadd y Gweithwyr Blaengarw. Dysgwch rai technegau a chyfrannwch at wneud rhywbeth arbennig. Mae pecynnau hefyd ar gael i chi eu prynu rhwng 15 – 25 Chwefror er mwyn i chi greu arddangosfa gartref ac ymuno yn yr hwyl.

Sesiynau galw heibio:

  • Dydd Llun 20 Chwefror 2.30pm–4.30pm a 6.30pm–8.30pm
  • Dydd Mawrth 21 Chwefror 2.30pm–4.30pm a 6pm–8.30pm
  • Dydd Mercher 22 Chwefror 2.30pm–4.30pm

Llyfrgell – Ffenestri Ffantastig – Gweithdai Ffenestri Arddangos Cymunedol

Dewch i’n helpu i greu ffenestri arddangos hyfryd ar gyfer ein llyfrgelloedd. Dysgwch rai technegau a chyfrannwch at wneud rhywbeth arbennig.  Mae pecynnau hefyd ar gael i chi eu prynu er mwyn i chi greu arddangosfa gartref ac ymuno yn yr hwyl.

Sesiynau galw heibio:

  • Llyfrgell Porthcawl – Dydd Llun 20 Chwefror – 10am–4pm (ar gau 1pm–2pm am ginio)
  • Llyfrgell Abercynffig – Dydd Mawrth 21 Chwefror – 10am–4pm (ar gau 1pm–2pm am ginio)
  • Llyfrgell Y Pîl – Dydd Iau 23 Chwefror – 10am–4pm (ar gau 1pm–2pm am ginio)

Y Ganolfan Gymunedol – Nant-y-moel – Ffenestri Ffantastig – Gweithdy Ffenestri Arddangos Cymunedol

Dewch i’n helpu i greu rhai ffenestri arddangos hyfryd ar gyfer y ganolfan gymunedol. Dysgwch rai technegau a chyfrannwch at wneud rhywbeth arbennig i ysbrydoli eich prosiect gartref. Mae llawer o ddeunyddiau ar gael felly dewch i ymuno â ni.

Dydd Llun 20 Chwefror – 1.30pm–3.30pm, 4.30pm–6.30pm

Maesteg – Gweithdai Creu Arddangosfa Ffenestri Ffantastig – £2.50 – Swyddfeydd Cyngor Maesteg

Dewch i ymuno â’r artist lleol dawnus, Claire Hiett, i greu ffenestr ysbrydoledig ar thema Cymru ar gyfer eich cartref eich hun a chymryd rhan yn ein prosiect celf ar draws Pen-y-bont ar Ogwr #FfenestriFfantastig. Yn addas i blant 4 oed a hŷn gyda goruchwyliaeth oedolyn ond yn addas iawn i bawb, felly dewch â meddylfryd creadigol a gadewch i ni weld beth allwn ni ei wneud!

Cynhelir y sesiynau ar:

  • Dydd Llun 21 Chwefror – 2.30pm–4.30pm, 6pm–8pm
  • Dydd Mawrth 22 Chwefror – 11am–1pm a 2pm–4pm
  • Dydd Iau 24 Chwefror – 2.30pm–4.30pm, 6pm–8pm

Rhannu’r dudalen hon

Llyfrgell Abercynffig yn Ailagor

Bydd Llyfrgell Abercynffig yn ailagor ddydd Llun, 18 Mawrth, yn dilyn gwaith adeiladu hanfodol. Bydd yr oriau agor arferol yn ailgychwyn. Bydd ein llyfrgell dros dro a’r gwasanaeth Swyddfa Bost

Darllen Rhagor

Streic Y Glowyr Yn 40 Oed

Mae diwydiant, ac yn enwedig mwyngloddio glo, yn rhan hanfodol o’n hanes lleol. Roedd y pyllau glo yn dod â gweithwyr i’r cymoedd, gyda threfi’n tyfu yn yr amseroedd gorau

Darllen Rhagor

Subscribe to our mailing list to receive our latest library news, updates and event information direct to your inbox.

or Unsubscribe