Ap newydd ar gyfer Cylchgronnau a Llyfrau Llafar

Libby Wordmark

Mae Llyfrgelloedd Awen yn falch i gyhoeddi bod dros 3,000 o gylchgronau a llyfrau sain poblogaidd bellach ar gael i’w lawrlwytho a’u darllen ar unrhyw ddyfais, 24/7. Bydd defnyddwyr gyda cherdyn llyfrgell yn gallu darllen cylchgronau digidol ar Libby, yr ap darllen o Overdrive sydd wedi ennill gwobrau, neu drwy ymweld â Lawrlwythiadau – Awen Libraries.

Nid oes gan gylchgronau digidol Libby unrhyw restrau aros neu geisiadau, ac nid ydynt yn cyfrif tuag at nifer eich benthyciadau. Gallwch hefyd eu hadnewyddu’n hawdd. Gall benthycwyr Llyfrgelloedd Awen bori rhestrau o gylchgronau o fewn yr ap a chwilio yn ôl fformat i ddod o hyd i deitlau sydd ar gael.

Wedi’i enwi gan Popular Mechanics fel un o 20 ap gorau’r ddegawd, mae Libby yn cysylltu defnyddwyr tro cyntaf a darllenwyr profiadol fel ei gilydd gyda chasgliad digidol Llyfgrelloedd Awen. Gall darllenwyr bori a benthyg teitlau yn syth ac yna dechrau darllen am ddim gyda cherdyn llyfrgell dilys. Mae’r gwasanaeth hwn yn gydnaws â’r holl brif gyfrifiaduron a dyfeisiau, iPhone®, iPad®, ffonau a thabledi Android ™ a Chromebook ™. Mae pob teitl yn dod i ben yn awtomatig ar ddiwedd y cyfnod benthyca ac nid oes unrhyw ffioedd hwyr. Gall darllenwyr hefyd lawrlwytho teitlau i Libby i’w defnyddio all-lein.

I ddechrau lawrlwythwch Libby neu ewch i’n tudalen Lawrlwytho i gael mynediad at gylchgronau a llyfrau sain trwy’r porwr gwe.

Rhannu’r dudalen hon

Llyfrgell Abercynffig yn Ailagor

Bydd Llyfrgell Abercynffig yn ailagor ddydd Llun, 18 Mawrth, yn dilyn gwaith adeiladu hanfodol. Bydd yr oriau agor arferol yn ailgychwyn. Bydd ein llyfrgell dros dro a’r gwasanaeth Swyddfa Bost

Darllen Rhagor

Streic Y Glowyr Yn 40 Oed

Mae diwydiant, ac yn enwedig mwyngloddio glo, yn rhan hanfodol o’n hanes lleol. Roedd y pyllau glo yn dod â gweithwyr i’r cymoedd, gyda threfi’n tyfu yn yr amseroedd gorau

Darllen Rhagor
Shelves of books.

Rhestr Llyfrau Newydd

Oes diddordeb gennych chi yn y llyfrau newydd sydd ar gael yn eich llyfrgell leol? Mae gennym amrywiaeth o lyfrau ffuglen a ffeithiol ar gael o fis Mawrth 2024: Ffuglen:

Darllen Rhagor

Subscribe to our mailing list to receive our latest library news, updates and event information direct to your inbox.

or Unsubscribe